WYTHNOS TAFWYL

DYDD SUL, 09.05.21

19.30 Am yn ail

Roedd ‘Seremoni Cadeirio’r Bardd’ yn Eisteddfod Bro Colwyn, 1995 yn un gofiadwy wrth i’r bardd ifanc buddugol, Tudur Dylan Jones, gael ei gadeirio gan ei dad ac Archdderwydd, John Gwilym Jones…

DYDD LLUN, 10.05.21

10:00 AMSER STORI GYDA CARYS GLYN

Dewch i gwrdd â Chriw’r Coed! Y pump archarwr sydd yn mynd i ddatrys dirgelwch y gwenyn coll…

17:00 Colur a gwallt Tafwyl

Ymunwch â Ceri Wyn Jones (@thatgingerymua) ar diwtorial arbennig gwallt a cholur yn y thema ‘gŵyl’. Meddyliwch ‘space buns’ a hwyl or 90au…

19:30 Pwytho | Pwyllo

Efa Lois fydd yn trafod gorffennol a dyfodol ffasiwn araf yng Nghymru gyda Mirain Iwerydd, Sylvia Davies o Eto Eto, ac Elen Phillips o Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan…

DYDD MAWRTH, 11.05.21

18:00 TIPS TIKTOK GYDA ELLIS LLOYD JONES

Stoooop! Ydych chi eisiau gwybod fy ‘Top Tips’ i am sut i greu TikToks eiconig?..

18:00 Minecraft

Ydych chi erioed wedi dychmygu be fyddai gŵyl sydd wir yn ddigidol yn edrych fel!?..

19:30 HOLI HELEN A DYLAN

Oes cwestiwn gyda chi am yr iaith Gymraeg neu am ddysgu Cymraeg? Beth am hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd neu addysg Gymraeg?..

DYDD mercher, 12.05.21

12:00 Awr Les

Cym gam yn ôl o brysurdeb dy ddiwrnod, a rho’r amser i dy hun ymlacio. Sesiwn ioga gyda Efa Dafydd – perffaith ar gyfer yr awr ginio…

17:30 PARTI TEULU GYDA DO RE MI

Do Re Mi fydd yn dod a’r parti i’ch ystafell fyw wrth i ni ddechrau dathliadau Tafwyl gyda’r rhai bach!..

19:30 Merched yn GWneud Miwsig

Prosiect ar y cyd rhwng Maes B a Clwb Ifor Bach yw Merched yn Gwneud Miwsig. Cyn i’r pandemic fwrw, roedd y prosiect yn cynnig gweithdai cerddoriaeth oedd yn cael eu rhedeg gan fenywod blaenllaw y sîn gerddoriaeth yng Nghymru…

DYDD iau, 13.05.21

17:30 SESIWN GOGINIO PICNIC TAFWYL

Dewch i neud picnic hynod o flasus gyda Bacws Haf ar gyfer Tafwyl eleni! Mi fydd y sesiwn zoom yn rhoi cyfle i chi holi cwestiynau a dysgu wrth i chi ddilyn Mrs.Hayes er mwyn neud y picnic perffaith…

19:30 YR ACTOR A’I STORI

Mae’r actor Andrew Teilo yn wyneb cyfarwydd ar Bobol y Cwm. Dewch i glywed am awydd yr actor i droi’n awdur a’r modd y lluniodd gasgliad o straeon byrion ar gyfer ennill gradd MA yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe…

DYDD gwener, 14.05.21

14:00 DISCO MR URDD

Meddwl y gallwch chi ddal fyny gyda ‘moves’ Mr Urdd? Dewch i gael parti gyda’r dyn ei hun yn ei ddisgo…

18:00-20.00 CLWB SWPER OASIS 

Mae Oasis Cardiff yn elusen sy’n cynnig croeso cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghaerdydd…

20:30 gig EDEN

Parti agoriadol #Tafwyl21 ac mae’r genod o Glwyd yn barod i ddathlu! Noson yng nghwmni Emma, Non, a Rachael – lot o tiwns, a lot fawr o chwerthin!..

DYDD SUL, 16.05.21

09:00 ioga pen tost

Wedi joio ychydig bach gormod dros wythnos Tafwyl? Does dim fel ‘chydig bach o Ioga i leddfu’r pen a’ch paratoi am y diwrnod o’ch blaen…